Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hen gyfaill Tom Ellis. Er mwyn rhyddhau yr Ysgol o awdurdod yr offeiriad y trefnodd wrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, y cydfradwrodd a holl awdurdodau lleol Cymru i wneyd y gwrthryfel yn un cenedlaethol Cymreig, ac y casglodd drysorfa rhyfel i gario'r gwrthryfel yn mlaen.

Ni ellir yn deg gyhuddo dyn a wnaeth hyn, o fod yn ddifater ar gwestiwn rhyddid cydwybod. Ac eto mor gyflym y rhed ffrydiau bywyd, mor gyfnewidiol yw ei ragolygon, fel y darfu i fethiant Lloyd George, wedi myned o hono ef ei hun yn Aelod o'r Cabinet, i gyflawnu yr addewidion a wnaeth ef ei hun cyn ei fyned yno, ac ymrwymiadau mynych y Blaid Ryddfrydol, a'r Llywodraeth o'r hon y mae yn aelod, yn mron colli iddo ymddiriedaeth y bobl a aberthasant gymaint drosto ac er ei fwyn, a'u gyru hyd at fin bygwth peidio ei gefnogi o hyny allan. Adgofient y ffaith y gallent fod wedi cael Dadgysylltiad 30 mlynedd yn ol pe bae Ymneillduwyr Cymru yn barod i werthu eu hegwyddorion, canys pan yr aeth yn rhwyg rhwng Gladstone a Chamberlain ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Werddon yn 1885, daeth Chamberlain ei hun i Gymru gan addaw dadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru os cefnogai aelodau Cymru ef mewn gwrthwynebu Gladstone ar gwestiwn y Werddon. Yr oedd Chamberlain, y pryd hwnw, yn ddiameu yn ddigon gonest yn cynyg, ac yn ddigon galluog i gyflawnu yr addewid pan ddaeth y Toriaid i awdurdod. Ond gwrthod y fargen a wnaeth Cymru, gan barhau i roi llaw o help i'r Werddon ar draul colli y cyfle i gael y mesur a chwenychai hi ei hun gael.