"Er fod ugain miliwn o bobl yn yr Eidal, ni chyfarfyddais ond a dau ddyn yno erioed."
Awgrymai felly mai eiddilod, ac nid dynion teilwng o'r enw, oedd y gweddill oll. Ni chyfarfyddodd Lloyd George yn holl gwrs ei fywyd gwleidyddol ond ag ychydig o "ddynion" yn ystyr Napoleon o'r gair. Yn mhlith ei gydaelodau Seneddol cyfarfyddodd ag o leiaf ddau "ddyn" a safent i fyny i baffio ag ef bryd y mynai—Mr. Bryn Roberts yn y Gogledd, a Mr. D. A. Thomas yn y De. Ond nid oedd un o'r ddau yn aelod. o'r Senedd pan oedd Lloyd George yn y Cabinet. Ond pan gyfarfyddai Lloyd George a "dyn" yn yr ystyr Napoleonaidd, byddai ffrwgwd yn debyg o ganlyn. Ar un achlysur dywedodd:
"Yr wyf yn cyfarfod a dynion Hugh Price Hughes yn mhob man."
Golygai wrth hyny fod y Wesley enwog wedi gadael ei argraff yn ddofn ar ambell un yn y wlad. Yn awr, er nad oedd yr un "Lloyd George" yn mhlith yr Aelodau Cymreig wedi iddo ef fyned i'r Cabinet, cafodd fod aml un o "ddynion Lloyd George" yn aros yn y wlad, er na wyddai ddim mwy am danynt nag a wyddai Elias gynt am y saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. A rhoddodd y rhai hyn drafferth; ni fedrent hwy annghofio y gwersi a ddysgodd efe iddynt gynt. Yr oedd yn eu plith rai na fynent weled gwahaniaeth rhwng Gweinyddiaeth Ryddfrydol o dan Rosebery ag un o dan Campbell Bannerman, na llawer iawn o wahaniaeth rhwng Tom Ellis fel Prif Chwip un Cabinet a Lloyd George fel Aelod o'r llall. Ac os oedd yn iawn i Lloyd George wrthryfela yn erbyn y cyntaf,