Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef a fuasai myned i gyfarfod o'r Aelodau Cymreig i'w cymell i wrthryfela yn erbyn y Cabinet, o'r hwn yr oedd ef yn aelod. O deyrngarwch camsyniol tuag ato ef bu yr Aelodau Cymreig yn dawel a thawedog, pan ddylasent fod yn effro ac yn cynyrfu. Y camwri mwyaf a fedrent wneyd a Lloyd George oedd bod yn ddystaw yn nghylch hawliau Cymru. Athrod ar Lloyd George yw tybied na ddarfu iddo ef son am achos Cymru yn y Cabinet. Ond pe y gwasgai ef yn y Cabinet am i Fesur Dadgysylltiad ddod yn mlaen yn ddioed, buasai gan y Prif Weinidog ac Aelodau eraill y Cabinet ateb parod a digonol. Gallasent ddweyd: "Gyda phob parch i'ch barn bersonol chwi, Mr. Lloyd George, nid oes yr un prawf o'n blaen ni fod Cymru yn gwasgu llawer am hyn yn awr. Pe amgen buasai yr Aelodau Cymreig yn aflonyddu, ac yn ein blino, fel yr arferech chwi wneyd; ond nid ydynt. Felly, gadawn y mater am ychydig yn rhagor."

Yn hyn y gwahaniaethai'r Aelodau Cymreig oddiwrth Lloyd George; pobl "swil" iawn oeddent, heb lawer iawn o hunanymddiried. Ni chafodd neb le i gyhuddo Lloyd George erioed o un o'r ddau bechod hyn. Ni phallodd ffydd Lloyd George ynddo ei hun erioed. Petae ef yn eistedd yn nghadair y Pab o Rufain buasai wedi gorfodi pob Pabydd drwy'r byd i broffesu ffydd yn anffaeledigrwydd y Pab, neu i chwilio am le mewn rhyw eglwys arall!

Hoff ydoedd Lloyd George o adgofio dywediad Napoleon Bonaparte gynt. Wedi goresgyn o hono yr Eidal, dywedodd Napoleon: