Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cabinet yr oedd Mesur Cymru, dechreuasant aflonyddu. Danfonwyd dirprwyaeth ar ol dirprwyaeth at yr Aelodau Cymreig. Yn cael eu symbylu felly i wneuthur rhywbeth, aethant hwythau at y Cabinet a'u cwynion, ond llonyddwyd a thawelwyd hwynt fel pe baent blant crintachlyd. Gan fod yn ufudd i ddysgyblaeth Lloyd George, annghofiodd yr aelodau Cymreig y gwersi a ddysgodd efe gynt iddynt hwy ac i'w hetholwyr, sef fod deddfwriaeth yn gyffelyb i deyrnas nefoedd yn gymaint ag mai treiswyr sydd yn ei chipio hi. Gwyddai ef, er na sylweddolasant hwy, fod dylanwad Aelodau Seneddol ar y Weinyddiaeth i'w fesur yn ol mesur yr hyn y mae yr aelodau hyny yn barod i wneyd er mwyn mynu cael yr hyn a ofynai yr etholwyr. Gwnaeth iddynt hwy, ac o bosibl iddo ef ei hun, gredu mai yr un oedd Lloyd George mewn swydd uchel yn y Cabinet yn 1907, a Lloyd George y gwrthryfelwr yn 1894, a Lloyd George y penaeth ymbleidwyr a ymladdai yn erbyn y Llywodraeth yn 1900. Heb farnu dim am y dylanwadau o dan y rhai y gweithredai yr Aelodau Cymreig, digon yw dweyd eu bod yn ymddiried mwy i bresenoldeb Lloyd George a Mr. McKenna yn y Cabinet, a Mr. Herbert Lewis a Mr. Wm. Jones yn y Weinyddiaeth, er y tu allan i'r Cabinet, nag a wnaent ynddynt hwy eu hunain a'u gallu i orfodi'r Cabinet i gadw eu gair ac i gyflawnu eu haddewid i Gymru.

Gellir cymeryd golwg arall ar y safle heb wneyd cam a'r Aelodau Cymreig nac a Mr. Lloyd George. Fel aelod o'r Cabinet nid gweddus nac anrhydeddus iddo