Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1905, digiodd wrth Gadeirydd yr Aelodau Cymreig, Syr Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd yn awr) am i hwnw ddweyd y dylai Dadgysylltiad gael y flaenoriaeth hyd yn nod ar y Mesur Gwella Deddf Addysg 1902, a dileu Deddf Gorfodaeth Cymru a basiwyd yn 1904. Ond er hyny wele Fesur Dadgysylltiad wedi cael ei basio, tra'r ddau Fesur arall, y mynai ef eu gwella neu eu dileu cyn pasio Dadgysylltiad, yn aros o hyd mewn grym heb eu newid, ac yn arfau peryglus yn llaw Cabinet Toriaidd pan ddaw hwnw eto i awdurdod. Yn 1906 rhybuddiai ei gyfeillion yn Nghymru i beidio gwthio Dadgysylltiad o flaen mesurau cymdeithasol. Yn 1907 daliodd y rhaid yn gyntaf benrwymo Ty'r Arglwyddi, a'i osod mewn cadwyni haiarn cyn ceisio o ddifrif basio Dadgysylltiad na dim arall. Ac eto, rai blynyddoedd cyn hyny (1896) gwrthodai gydsynio ag Arglwydd Rosebery pan ddywedodd hwnw mai Ty'r Arglwyddi oedd "y llew a safai ar lwybr Deddfwriaeth Ryddfrydol."

Ond er fod ei hen gyfeillion yn y wlad yn tueddu. yn gryf i'w feirniadu yn llym, ac yn parhau i rodio llwybr gwrthryfel fel y dysgodd ef hwynt gynt i wneyd, nid felly corff ei gydaelodau Cymreig yn y Senedd. Deuai y rhai hyn i gyffyrddiad beunyddiol ag ef, o dan swyn ei gwmni a dylanwad ei eiriau a'i safle. Rhwyddach oedd iddo ef berswadio yr aelodau Cymreig yn y Senedd i beidio blino'r Cabinet nag ydoedd. iddo osod mwgwd ar eneuau ei hen ddysgyblion o'r tu allan i'r Senedd. Pan ganfu y rhai hyn mai cilio pellach yn ol, a myned is-is ar raglen deddfwriaeth y