Gymro yr edrych Aelod o'r Cabinet ar bethau. Dyrchafodd Lloyd George i enwogrwydd fel arweinydd Cymreig. Gwir na bu erioed yn gadeirydd yr Aelodau Cymreig, eto i gyd yn y blynyddoedd cyn myned o hono i'r Cabinet, cariai fwy o ddylanwad ar aelodau Cymru nag a wnai neb arall. Dros bolisi milwriaethus yr oedd ei holl ddadl pan oedd y Toriaid yn dal awenau'r Llywodraeth; ond pan syrthiodd yr awenau i ddwylaw'r Rhyddfrydwyr, ac yntau yn y Cabinet yn eu dal, defnyddiodd ei holl ddylanwad i gadw'r aelodau Cymreig yn dawel. Dangosodd ei hen gyfaill D. A. Thomas gnewyllyn y peth pan ddywedodd y byddai mor anmhosibl i Lloyd George barhau yn arweinydd Cymreig wedi myned o hono i'r Cabinet, ag a fuasai i Parnell fod yn Gadeirydd y Blaid Wyddelig ac ar yr un pryd yn Ysgrifenydd y Werddon yn y Cabinet. Gwrthodai Lloyd George gydnabod hyn; ac i hyn, a hyn yn unig, y rhaid priodoli y pellhad graddol a gymerodd le rhyngddo a rhai o'i hen gyfeillion goreu pan, wedi myned o hono i'r Cabinet, y mynent hwy barhau i wthio Dadgysylltiad i'r ffrynt, ac y mynai yntau, er yn Aelod o'r Cabinet, fynychu cyfarfodydd preifat yr Aelodau Cymreig a cheisio dylanwadu yno arnynt i beidio blino'r Cabinet.
Er o bosibl yn anymwybodol iddo ef ei hun, dechreuodd Dadgysylltiad gilio yn ol yn ei feddwl ef o'r safle blaenllaw a arferai ei ddal. Dechreuodd y cyfnewidiad hwn, yn wir, cyn myned o hono i'r Cabinet. Yn 1904, dysgai drwy'r wasg fod Ymreolaeth i Gymru yn bwysicach ar hyny o bryd na hyd yn nod Dadgysylltiad.