Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan feiddiodd Mr. Ellis Jones Griffith, yr aelod dros Sir Fon, ameu gwaith Cabinet Campbell Bannerman yn gwthio cwestiynau eraill o flaen Dadgysylltiad bygythiodd Lloyd George osod ei gydaelod yn y "guard-room" i'w gosbi am anufudd-dod; pan wrthdystiodd cyfundebau crefyddol Cymru yn erbyn y bygythiad hwn o'i eiddo, cyhuddodd hwynt o "gamddarlunio yn faleisus," gan eu ceryddu yn llym "am feiddio cyfarwyddo'r Cabinet am yr amser a'r modd "iddo ymosod ar y gelyn." Rhoddodd gerydd hyd yn nod i Gadeirydd yr Aelodau Cymreig am feiddio o hwnw ddweyd "na all yr Aelodau Cymreig barhau i gefnogi'r Llywodraeth os na roddir lle amlwg i Fesur Dadgysylltiad, a'i ddwyn i mewn yn fuan." A rhoddodd yr holl sen hyn ar y bobl a ddysgwyd ganddo ef ei hun i wrthryfela, a'r holl gerydd hyn am droseddau llawer llai yn erbyn y Cabinet na'r rhai y bu ef ei hun yn euog o'u cyflawnu.

Ond rhaid priodoli hyn oll i'r ffaith fod ei safbwynt o edrych ar bethau wedi newid. Yr hyn y methodd ei gefnogwyr yn y wlad, ei gyd-aelodau yn y Ty, ac o bosibl yntau ei hun hefyd, o leiaf am dymor ei sylweddoli, oedd y ffaith fod ei fynediad ef i'r Cabinet o angenrheidrwydd yn newid natur ei hen gysylltiad a'r Dywysogaeth, ac o angenrheidrwydd yn newid hefyd y safbwynt oddiar yr hwn yr edrychai efe ar bethau. Ni allai unrhyw gwestiwn Cymreig, ddim hyd yn nod Dadgysylltiad, ymddangos yn hollol yn yr un goleu i aelod o'r Cabinet ag ydoedd i aelod Cymreig o'r tu allan i'r Cabinet. Canys nid fel yr edrych dyn o