Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dygir Mesur Dadgysylltiad i mewn i Dy'r Cyffredin gan y Llywodraeth, a sicrheir ei basio drwy'r Ty hwnw yn y pedwerydd Senedd-dymor (h. y. 1909) o'r Senedd bresenol, os na bydd y Senedd-dymor hwnw yn cael ei gymeryd i fyny yn llwyr gan y frwydr rhwng Ty'r Arglwyddi a'r Bobl, neu gan Ddeddfwriaeth yn ymwneyd a Chyfraith yr Etholiadau."

Dranoeth, yn y Gynadledd Fawr, siaradodd Mr. Lloyd George, a chadarnhaodd y Gynadledd y cytundeb uchod a wnaed rhwng Mr. Lloyd George ar ran y Cabinet, a'r Pwyllgor ar ran y Gynadledd. Atebodd y Gynadledd felly yr amcan oedd iddi, er na chyflawnwyd yr ymrwymiad pendant hwn hyd gyfnod diweddarach ac mewn Senedd newydd.

Bydd Mr. Lloyd George ar adegau yn fyrbwyll. Bu felly pan fynodd gael dirprwyaeth eglwysig i holi i mewn i faterion yn nglyn a Dadgysylltiad, a thrachefn pan benododd y Barnwr Vaughan Williams yn Gadeirydd i'r Ddirprwyaeth. Oedodd hyny Fesur Dadgysylltiad am rai blynyddoedd.

Gwnaeth gamgymeriad mwy fyth pan, ar ol i Fesur Dadgysylltiad gael ei basio gan y Senedd, y cefnogodd efe ymgais i basio y "Mesur Oedi" a achosodd gymaint cynwrf. Mesur oedd hwn i oedi dwyn Dadgysylltiad i weithrediad, a'r drwg oedd i'r Llywodraeth ei ddwyn. i mewn heb ymgyngori o gwbl a'r Aelodau Cymreig. Cododd y wlad megys un gwr i wrthdystio. Cymerodd yr Aelodau Cymreig galon, a rhoddasant ar ddeall i'r Cabinet y gwrthryfelent yn gyhoeddus yn Nhy'r Cyffredin. Ymwelodd Mr. Lloyd George, a dau aelod arall o'r Cabinet, yn nghyd a Mr. Herbert Lewis a Mr. William Jones, oeddent yn y Weinyddiaeth ond heb fod