Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y Cabinet, a'r Aelodau Cymreig i geisio eu darbwyllo i ganiatau i'r Mesur Oedi gael ei basio. Ond safodd yr Aelodau Cymreig yn gadarn, gan ddal y byddai pasio'r Mesur Oedi yn fracychiad digywilydd o achos Cymru gan y Llywodraeth o'r hon yr oedd Mr. Lloyd George yn aelod. Chwerwodd yntau, gan lefaru geiriau celyd yn erbyn gweinidogion mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, a'u galw yn "ddynion bach mewn lleoedd mawr." Cyhuddodd hefyd ei gydaelodau Cymreig ar lawr y Ty eu bod yn ymddwyn yn "fychan a gwael" yn y mater. Cynaliwyd cynadleddau mawr yn Rhyl i Ogledd Cymru, ac yn Nghaerdydd i'r De, i gynal breichiau yr Aelodau Cymreig yn y frwydr yn erbyn Lloyd George a'r Llywodraeth. Dywedwyd geiriau celyd am dano ef a'r Cabinet gan y dynion i'r rhai yr oedd ef yn ddyledus am ei sedd a'r Cabinet am eu swydd.

Profwyd unwaith yn rhagor mai "trech gwlad nag Arglwydd," hyd yn nod nag Arglwydd fel Lloyd George o ddewisiad y wlad ei hun. Yn ngwyneb yr ystorm yn y wlad a gwrthwynebiad annghymodlawn yr Aelodau Cymreig, dropiodd y Llywodraeth y Mesur Oedi, a sicrhawyd Mesur Dadgysylltiad ar ddeddflyfrau Prydain. Dyma yn ddiameu y fuddugoliaeth. fwyaf nodedig a enillwyd erioed gan yr Aelodau Cymreig yn y Senedd. Tra ragorai mewn maint a phwysigrwydd ar fuddugoliaeth Lloyd George ei hun ar Weinyddiaeth Rosebery yn 1894.

Erys y ffaith fawr hanfodol, fod Cymru ar ol haner canrif o frwydro, o'r diwedd wedi mynu sefydlu cyd-