raddoldeb crefyddol o fewn ei therfynau. Er i genedlaethau a aberthasant yn mron pob peth a feddent er mwyn enill rhyddid cydwybod, fyned i'w beddau heb weled cyflawnu eu gobaith, ac er "wedi cael tystiolaeth trwy ffydd ni dderbyniasant yr addewid;" eto nid aeth eu llafur a'u haberth yn ofer, na'u gweddiau yn ddieffaith. Mae Cymru heddyw yn parotoi balm i wella'r archollion a'r clwyfau a gafwyd gan y ddwy blaid yn y frwydr hirfaith hon, gan obeithio gweled yn fuan Gymru gyfan mewn ystyr llawnach o'r gair nag a welwyd er dyddiau Llewelyn Fawr.
Brwydr yr Ysgol oedd y rhan arall o'r ymdrech fawr dros ryddid cydwybod. Edrychai Mr. Lloyd George ar Frwydr yr Ysgol fel rhan hanfodol o Frwydr Dadgysylltiad, a phob un o'r ddwy yn ddyledswydd genedlaethol ac yn hanfodol tuag at orfodi y cenedloedd Prydeinig eraill i gydnabod gwahanfodaeth, ac i barchu urddas cenedlaethol y Cymry. Mewn cynad- ledd fawr yn Nghaerdydd yn 1904, ar ganol brwydr fawr yr Ysgol yn Nghymru, ebe fe:
"Yr ydym ni yn Nghymru yn ymladd am gydraddoldeb crefyddol. Ymgymerodd cenedl y Cymry a'r frwydr hon, nid fel unigolion, nac fel aelodau o unrhyw blaid, nac hyd yn nod fel aelodau o'r Eglwysi Rhydd, eithr fel cenedl. Daeth Cymru allan i'r frwydr hon ar ran yr achos mwyaf cysegredig a ymddiriedwyd erioed i unrhyw genedl-Achos Mawr Rhyddid Cydwybod."
Yn 1902 y pasiwyd Deddf Addysg Balfour-rhan o'r pris uchel y gorfu i Ymneillduwyr dalu am gefnogi o honynt y Llywodraeth Doriaidd yn "Etholiad Khaki" 1900. Y Ddeddf hono achubodd Ysgolion Eglwys Loegr yn Nghymru rhag cael eu llwyr ddifodi.