Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Ysgolion y Bwrdd yn lledu yn gyflym drwy yr holl Dywysogaeth, ac Ysgolion yr Eglwys yn marw o un i un o ddiffyg arian i'w galluogi i gystadlu ag Ysgolion y Trethdalwyr. Cyfryngodd y Llywodraeth Doriaidd i'w cadw yn fyw, ac i'w gosod ar sylfaen gadarnach nag erioed, drwy y Mesur Addysg hwn. Gosodwyd ar y trethdalwyr yn mhob sir, drwy y Cyngor Sir, y rheidrwydd o gadw a chynal pob ysgol enwadol yn ogystal ag ysgolion y trethdalwyr. Parhaodd ysgol y trethdalwyr dan reolaeth y trethdalwyr, parhaodd yr ysgolion enwadol fel gynt dan lywodraeth yr enwadau, er y caniatawyd i'r trethdalwyr benodi lleiafrif o reolwyr y cyfryw; arosai yr awdurdod felly, a'r hawl i benodi athrawon, ac i gyfranu addysg enwadol, yn ymarferol fel o'r blaen, yn nwylaw yr offeiriad. Yr unig wahaniaeth a wnaed oedd gorfodi'r trethdalwyr i gynal yr ysgolion enwadol. Fel y dywedodd Lloyd George wrth symio'r Mesur i fyny:

"Yr offeiriad sydd i benodi yr athrawon. Y trethdalwyr sydd yn gorfod eu talu."

A'r athraw, a benodid gan yr offeiriad, ond a delid gan y trethdalwyr, a roddai addysg grefyddol yn Nghredo ei Eglwys ei hun i blant y trethdalwyr bob dydd o'r wythnos. Dysgai'r athraw yn ysgol yr Eglwys egwyddorion Eglwys Loegr; dysgai'r athraw yn ysgol y Pabyddion egwyddorion Eglwys Rufain; gwnai y cyntaf hyn o dan gyfarwyddyd offeiriad y plwyf, a'r ail o dan gyfarwyddyd yr offeiriad Pabaidd; talai'r trethdalwyr y ddau. Gwelir felly fod yma dreth gyhoeddus at gynal Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain