RHYDDID CYDWYBOD yn cael ei gosod ar y wlad, ac Ymneillduwyr Protestan- aidd Cymru yn gorfod ei thalu. Ar yr un adeg gosod- odd y Llywodraeth dreth newydd ar yr yd. Cysylltodd Mr. Lloyd George y ddwy dreth mewn un frawddeg ddesgrifiadol:
"Bara drud-Catecism rhad!"
Cyffrowyd holl Ymneillduaeth y deyrnas. Yn Lloegr gwrthododd llu o Ymneillduwyr dalu'r dreth. Arweiniwyd hwynt gan yr henafgwr Dr. Clifford, a gweinidogion bydenwog eraill. Atafaelwyd eu dodrefn o'u tai; cynaliwyd arwerthiantau ar eu heiddo; taflwyd canoedd i garchar, a'r oll am wrthod o honynt fel Ymneillduwyr cydwybodol, dalu treth at ddysgu egwyddorion crefyddol nas gallent hwy eu derbyn.
O dan arweiniad ac ysbrydoliad Lloyd George, gwnaeth Cymru yn wahanol, gan osod y Cyngorau Sir i ymladd y frwydr dros egwyddor, yn lle gyru personau unigol i wrthdarawiad a'r awdurdodau gwladol. Gwnaeth ei "Apel at Gymru" gyntaf ar y ffurf o Ragymadrodd i'm Llawlyfr i ar Ddeddf Addysg 1902. Yn y Rhagymadrodd hwnw, rhoddodd fanylion pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru gadw llythyren y gyfraith tra yn ymwrthod yn llwyr a'i hysbryd, ac y gallent wrthod codi dimai o dreth ar neb at gynal yr Ysgolion Enwadol. Tuag at sicrhau hyn rhaid oedd yn gyntaf sicrhau mwyafrif effeithiol o Genedlaetholwyr Cymreig ar bob Cyngor Sir drwy'r Dywysogaeth. Trefnwyd holl alluoedd cenedlaethol ac Ymneillduol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd erbyn dydd yr etholiad. Yn mhob plwyf drwy'r wlad, gofynid i bob ymgeisydd am