Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VIII.

GWEINIDOG Y GORON.

CEIR yn Llywodraeth Prydain ddau fath o Weinidogion y Goron. Yn uchaf saif Aelodau y Cabinet. Hwynthwy sydd yn penderfynu polisi y Llywodraeth ar bob cwestiwn. Yr ail dosbarth yw y gweinidogion o'r tu allan i'r Cabinet, y rhai, gan mwyaf, a elwir yn "Is-ysgrifenyddion" yn ngwahanol adranau'r Llywodraeth. Fel rheol, pan wneir aelod cyffredin o'r Senedd am y tro cyntaf yn Weinidog y Goron, i'r ail ddosbarth yr a, a dyrchefir ef, os bernir ef yn gymwys ar ol ei brofi yn y swydd is, i'r swydd uwch yn y Cabinet. Anaml yr a Aelod Seneddol yn uniongyrchol i'r Cabinet heb wasanaethu am dymor yn y swydd is. Un o'r eithriadau anaml hyn yw Mr. Lloyd George. Pan aeth gyntaf i'r Senedd 25 mlynedd yn ol gwawdiai ei wrthwynebwyr y syniad o weled rhyw gyfreithiwr bach cyffredin yn y wlad yn myned yn Aelod Seneddol o gwbl. Gwyr mawr, cyfoethogion y wlad a phendefigion y bobl, yn unig a fernid yn gymwys i fod yn Aelodau Seneddol, ond etholwyd y cyfreithiwr tlawd ar eu gwaethaf oll. Hyd yn nod am aelodau ei blaid ei hun, edrych i lawr, braidd a wnaent arno pan aeth gyntaf i'w plith yn y Senedd. Ychydig o