Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaenllaw, megys Mr. (yn awr y Barnwr) Bryn Roberts, yr hwn, fel cyfreithiwr, a ddadleuai fod Mr. Lloyd George yn ymddwyn yn annghyfansoddiadol, ac yn arwain y Cyngorau Sir i gors anobaith.

Er i nifer o'r ysgolion newydd gael eu sefydlu, ac er i drysorfa fawr gael ei chasglu, methiant a fu yr ymgyrch newydd. Gwir fod nifer o ysgolion Eglwysig wedi cael eu cau mewn gwahanol ardaloedd, eto erys y mwyafrif mawr o honynt. Gwaeth na hyny, nid yn unig erys Deddf Addysg Balfour, 1902, a Deddf Gorfodaeth Cymru, 1904, o hyd mewn grym, ond erbyn hyn mae yn ymarferol yr holl Gyngorau Sir trwy Gymru yn codi treth at gynal yr ysgolion enwadol. Parha Ymneillduwyr mewn gwahanol fanau yn Nghymru a Lloegr i weled eu heiddo yn cael ei werthu i gyfarfod a'r dreth hono, a llawer o honynt yn myned i garchar blwyddyn ar ol blwyddyn er mwyn cydwybod.