Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag ysgolion yr Eglwys, yn cael eu talu gan y Llywodraeth i lywodraethwyr ysgolion yr Eglwys yn unig hyd nes y cyflawnid eu hangen hwy. Hyny yw, os byddai eisieu mwy o arian at gynal ysgol yr Eglwys nag a ddeuai fel grants i'r ysgol hono, gwnelid y diffyg i fyny o'r grants a enillid gan ysgolion y trethdalwyr. Felly cymerid arian a enillid gan blant Ymneillduwyr yn ysgolion y trethdalwyr i gynal ysgolion yr Eglwys.

Pasiwyd y Ddeddf hon ar waethaf pob gwrthwynebiad cyndyn o eiddo Lloyd George a'r Aelodau Cymreig. Dyfeisiodd Lloyd George gynllun newydd i wrthweithio'r Ddeddf orthrymus hon. Wedi cytuno ar ein cynllun ceisiodd genyf hysbysu'r trefniadau newydd drwy holl wasg y deyrnas. Gwnaethym inau hyny. Hanfod y cynllun hwn oedd:

1. Sefydlu ysgol y trethdalwyr i gystadlu ag ysgol yr Eglwys yn mhob ardal yn Nghymru. (Yr oedd rai canoedd o ardaloedd lle na cheid ond yn unig ysgol yr Eglwys).

2. Tynu plant yr Ymneillduwyr o ysgol yr Eglwys drwy'r holl wlad. (Plant Ymneillduwyr oeddent mwyafrif mawr y plant mewn canoedd o ysgolion yr Eglwys).

Cyn y gellid, o dan y gyfraith, sefydlu ysgol y trethdalwyr lle y bodolai ysgol arall eisoes, rhaid oedd bod ysgoldy ac ysgol mewn bod y gellid eu trosglwyddo i'r Cyngor Sir. Golygai hyn godi adeilad, a chyflogi athrawon, i'r ysgol newydd, a'i chadw mewn bod am flwyddyn, cyn y gellid ei chydnabod o dan y ddeddf. Golygai hyn filoedd o bunau o draul. Gwnaed apel at Ymneillduwyr Cymru yn mhob capel o bob enwad—a chodwyd trysorfa fawr at ymgyrch newydd Lloyd George. Gwrthwynebid ef gan rai Ymneillduwyr