Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olwyd erioed mo'r gobaith. Mae dros ddeng mlynedd er pan y'u llefarwyd; am naw mlynedd mae Lloyd George ei hun wedi bod yn y Cabinet; ond erys Deddf Addysg 1902 eto mewn grym. A gwaeth na hyny, pasiwyd deddf orthrymus arall, caletach na hi, ac erys hono hefyd heb ei dileu er fod Llywodraeth Ryddfrydol a rwymodd ei hun trwy lw i'w dileu, wedi bod mewn awdurdod bellach am naw mlynedd.

Os cyfrwys a fu Lloyd George i weled pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru weinyddu Deddf Addysg 1902 heb godi treth at gynal Ysgolion Enwadol, bu'r Toriaid hefyd yn ddigon cyfrwys i ddarganfod ffordd i wneyd ei ymgais ef yn ofer. Gwnaethant hyn drwy ddeddf gorfodaeth Cymru 1904. Er mwyn deall pa fodd y gwnaethant hyn, rhaid cofio fod yr Ysgolion yn derbyn eu cyllid o ddwy ffynonell fawr, sef (1) Oddiwrth y Llywodraeth drwy grants, a (2) Oddiwrth y Cyngorau Sir drwy'r trethi lleol. Telir y grants gan y Llywodraeth ar gyfer pob ysgol ar ei phen ei hun, yn un swm i'r Cyngor Sir; a gwneir y diffyg yn y draul o gadw'r ysgol hono i fyny gan y Cyngor o dreth y Sir. Cyfrifai Lloyd George, a'r Cyngorau Sir, yn naturiol ddigon, y byddai'r Llywodraeth yn talu'r grants fel o'r blaen; rhoddai'r Cyngor y grants a enillid gan ysgolion yr Eglwys i lywodraethwyr yr ysgolion hyny, ond heb ychwanegu atynt o'r trethi, gan ddefnyddio arian y dreth at amcanion ysgolion y trethdalwyr yn unig. Ond, o dan Ddeddf Gorfodaeth Cymru, 1904, trefnodd y Llywodraeth fod yr holl grants a enillid gan holl ysgolion y sir, ysgolion y trethdalwyr yn ogystal