Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag y mynai, byth ladd bywyd cenedl fel cenedl y Cymry. Codwyd y castell hwnw dros bum can mlynedd. yn ol i'r amcan o lethu'r Cymry, a lladd eu cenedlaetholdeb. Ond heddyw wele'r genedl fechan hono yn fwy byw nag erioed, a'i chynrychiolydd dewisedig a dewisol hi yn dal allweddau y Castell hwnw yn rhwym wrth ei wresgys, ac fel Cwnstabl y Castell yn agor y Porth Mawr i dderbyn Brenin Prydain ac Ymerawdwr yr Ymerodraeth fwyaf yn y byd i mewn, ac yn cymeryd rhan yn arwisgiad Tywysog Cymru oddi fewn i'r muriau.

Pan syrthiodd gweinyddiaeth Doriaidd Mr. Balfour yn 1905, yr oedd Mr. Lloyd George wedi dringo i safle mor amlwg fel dadleuydd ac ymladdwr yn mhlith y Rhyddfrydwyr fel y cytunai pawb y rhaid iddo gael lle yn mhlith Gweinidogion y Goron yn ngweinyddiaeth. Ryddfrydol Syr Henry Campbell Bannerman, ond ychydig a dybiai neb y caffai fod ar unwaith yn Aelod o'r Cabinet. Ond felly bu; gwnaed ef yn Llywydd Bwrdd Masnach, o bosibl y swydd olaf yn yr holl Weinyddiaeth y gallesid meddwl ei fod ef yn gymwys iddi.

Mewn ysgrifau eraill yr wyf wedi tynu cyffelybiaeth rhwng gyrfa Mr. Chamberlain ag eiddo Mr. Lloyd George. Yma gellir dweyd fod y ddau wedi myned i'r Cabinet heb wasanaethu awr mewn swydd is. Aeth y ddau i gymeryd arolygiaeth Bwrdd Masnach. Gwnaeth pob un o'r ddau ei arolygiaeth yno yn hanesyddol nodedig.

Cyn myned o hono erioed i'r Cabinet gwyddai ei