Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfeillion ei syniadau am swyddogion parhaol y Llywodraeth. Mae yn wahanol yn Mhrydain i'r hyn yw yn yr Unol Dalaethau. Pan ddaw plaid boliticaidd i awdurdod yn lle plaid wrthwynebol yn Mhrydain, ni newidir neb o swyddogion y llywodraeth, ond yn unig weinidogion y Goron, yn y Cabinet ac o'r tu allan iddo, ac ychydig iawn o swyddi llai. Erys corff mawr swyddogion y Llywodraeth, yn y Senedd a thrwy'r wlad oll, yn eu swyddi gan nad pa blaid boliticaidd a fo mewn awdurdod. Gelwir hwynt felly yn swyddogion parhaol. Pan elo gweinidog y Goron am y tro cyntaf i arolygu yr adran a ymddiriedwyd iddo, mae efe, i raddau pell, yn gorfod ymddibynu ar swyddogion parhaol yr adran hono i'w gyfarwyddo yn nghylch y gwaith. Geill y swyddogion parhaol hyn hwylysu neu rwystro llawer ar waith y gweinidog fo'n eu harolygu, fel y geill blaenoriaid neu ddiaconiaid mewn eglwys Ymneillduol hwylysu neu rwystro gwaith gweinidog newydd yr eglwys. Erys y swyddogion parhaol i Weinidog y Goron, fel yr erys blaenoriaid eglwys Ymneillduol i weinidog yr eglwys, yn eu swydd ar hyd eu hoes. Yn awr, credai Mr. Lloyd George cyn iddo fyned yn Weinidog y Goron, fod y swyddogion parhaol hyn yn rhwystr mawr ar ffordd pob ymgais ar ran Gweinidog y Goron i ddwyn gwelliantau pwysig i mewn, pa un bynag ai yn yr adran hono ei hun ai ynte yn neddfau'r wlad. Credai fod mwy o fai ar y swyddogion parhaol nag oedd ar Mr. Balfour yn bersonol am fod Cymru wedi gorfod ddyoddef cymaint o dan y Weinyddiaeth