Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Doriaidd, a chymerodd ei lw os byth y deuai efe yn Weinidog y Goron y mynai symud y sawl a fu'n rhwystr i ddeddfwriaeth Ryddfrydol. Er na lwyddodd i wneyd hyny, os ceisiodd, eto llwyddodd i gael mwy of waith allan o swyddogion ei adran nag a gafodd neb o'r blaen. Galwai ei swyddogion parhaol ef (yn ei gefn) "Yr Afr Gymreig" am ei fod, meddent, "yn medru ysboncio mor gyflym ac mor rhwydd o un pwynt i'r llall!"

Bu yn "optimist" erioed, yn un a fynai edrych ar ochr oleu yn lle ochr dywell pob cwestiwn. Felly nid oedd nac anhawsder na gwrthwynebiad o fath yn y byd byth yn ei ddigaloni. Os soniai'r swyddogion parhaol am greigiau rhwystr ar y ffordd, dywedai yntau fod yna lwybr hyd yn nod drwy'r creigiau, a bod yn rhaid ei deithio. Os dangosent iddo gymylau duon ar y ffurfafen, tynai yntau eu sylw at yr awyr las tu draw i'r cymylau, a'r haul yn tywynu yno. Felly, rhwng bodd ac anfodd gorfodwyd hwy i edrych ar bob peth o'i safle ef, yn lle eu bod hwy yn ei orfodi i weled pethau drwy eu gwydrau hwy. Mor ddeheuig hefyd y profodd ei hun i dynu'r Weinyddiaeth yr oedd ef yn aelod o honi allan o ddyryswch neu berygl yn Nhy'r Cyffredin, fel y daeth i gael edrych arno fel "dyn lwcus" y Weinyddiaeth. Dangosodd ei hun hefyd mor alluog yn awr i amddiffyn y Llywodraeth yn y dadleuon yn y Ty, ag y bu gynt o beryglus yn ei ymosodiadau arni. Enillodd yn fuan iddo ei hun yr enw o fod yr ymladdwr goreu yn y Weinyddiaeth Ryddfrydol. Yr oedd mor feiddgar yn ymosod, mor heinyf ac ystwyth