Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn arw, ac yn sarhaus ddigon pan fyddai hyny yn angenrheidiol. Un tro daeth dirprwyaeth bwysig ato yn cynwys Arglwydd Burleigh, Arglwydd Hugh Cecil, a mawrion eraill y deyrnas, i siarad ag ef am dreialon ac anhawsderau landlordiaid Lloegr. Yn lle ymbil ag ef, na hyd yn nod ei anerch yn barchus fel Gweinidog y Goron, cofiasant mai urddasolion y Deyrnas oeddent hwy, ac mai cyfreithiwr bach o'r wlad oedd yntau, a dechreuasant ei geryddu. Gwelodd yntau ar amrantiad beth oedd yn eu meddyliau, a stopiodd hwy ar unwaith gan ddweyd:

"Mi a'ch derbyniais heddyw i wrandaw eich cwynion ac unrhyw resymau a allech eu dwyn yn mlaen. Nid lle dirprwyaeth fo'n ceisio ystyriaeth gan y Llywodraeth yw difrio'r Llywodraeth. 'Rwy'n ofni fod eich addysg yn y cyfeiriad hwn wedi cael ei esgeuluso."

Pan ymosodwyd arno gan un golygydd mewn papyr enwog a dylanwadol, cyfeiriodd Mr. Lloyd George yn gyhoeddus at hwnw fel "ymhonwr gwagfalch, disylwedd." Ni pharchai'r cyfoethog fwy na'r tlawd. Haner duw i'r Prydeiniwr yw'r miliwnydd, ac o'r holl dduwiau hyn y diweddar Arglwydd Rothschild, yr arianydd bydenwog oedd y mwyaf. Dywedid am Arglwydd Rothschild fod ei ddylanwad y fath ar gyfoeth gwledydd daear, fel y medrai achosi rhyfel neu ei atal bryd y mynai. Beiddiodd Arglwydd Rothschild ar un achlysur siarad dipyn yn fombastaidd am yr hyn a ddylai ac ni ddylai, ar yr hyn y caffai ac ni chaffai'r Llywodraeth ei wneyd. Rhaid i'r Llywodraeth, ebe'r Iuddew cyfoethog hwn, beidio dwyn Mesur Dirwest