yn mlaen rhag niweidio masnach bragwyr a'r darllawyr; rhaid iddynt beidio gosod trethi trymion ar ystadau eang rhag niweidio masnach amaethyddiaeth; rhaid iddynt beidio rhoi blwydd-dal i hen bobl, na gwneyd hyn neu arall, am, meddai Lloyd George, eu bod yn cyffwrdd a llogell Arglwydd Rothschild. Yna aeth y Cymro rhagddo i ddweyd:
"Yr ydym yn cael llawer iawn gormod o Arglwydd Rothschild. Mi a hoffwn wybod ai penrheolwr y Deyrnas hon yw yr Arglwydd Rothschild hwn? A ydym i weled pob llwybr at ddiwygiad, arianol a chymdeithasol, yn cael ei flocio yn ein herbyn gan rybudd yn dweyd: 'Ni ellir tramwy y ffordd hon. Drwy orchymyn Nathaniel Rothschild'."
Gwnaeth y Cymro bach tlawd yr Iuddew mawr cyfoethog yn destyn gwawd a chwerthin yr holl deyrnas, ac eto pan fu farw Arglwydd Rothschild ni thalodd neb deyrnged mor uchel o barch i'w allu a'i goffadwriaeth ag a wnaeth Lloyd George, ond mae cof y cyhoedd, fel cof y gwr cyhoeddus, yn fyr a brau. Bu marsiandiwyr mawr Llundain yn traddodi Lloyd George i dan tragywyddol am bechodau ei Gyllideb, ond eleni syrthient i lawr i'w addoli ef fel gwaredwr arianol yr Ymerodraeth. Bu un papyr Toriaidd yn hoff o'i wawdio fel un na wyddai ddim am fyd arian, a'r mwyaf annghymwys o bawb i fod yn Gangellydd y Trysorlys; ond wele yr un papyr yn ddiweddar yn crochfloeddio drwy'r byd mai Lloyd George yw'r unig ddyn yn y Cabinet heddyw sydd yn werth ei halen, a'r unig wr y geil Prydain ddibynu arno yn nydd ei chyfyngder.
Rhaid oedd fod gwr o'r fath yn gadael ei argraff ar