Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob dim yr ymwnelai ag ef. O dan ei law ef daeth Bwrdd Masnach, y lleiaf ei nod yn mhlith Adranau'r Llywodraeth, yn ganolbwynt mawr bywyd gweithfaol a masnachol yr Ymerodraeth oll. Taflodd ei ysbryd ei hun i'w adran, a gwnaeth hi yn feddygfa lle y trinid ac y ceisid gwella pob afiechyd yn nghyfansoddiad gweith faol a masnachol y deyrnas.

Yn mhlith y clwyfau a feddyginiaethwyd, priodolir iddo gymodi gwyr y rheilffordd pan fygythid streic gyffredinol ganddynt drwy'r deyrnas. Iddo ef hefyd y priodolir terfynu streic glowyr Deheudir Cymru ar ganol y Rhyfel. Amrywia barn yn nghylch gwerth y cytundebau a wnaed ar yr achlysuron hyn, ond yn ddi-ddadl symudasant, o leiaf am y tro, berygl mawr a bygythiol i'r deyrnas. Efe sefydlodd y Byrddau Cymod gorfodol mewn gwahanol alwedigaethau, ac nid peth bach oedd perswadio'r meistr a'r gweithiwr i dderbyn dyfarniad Bwrdd o'r fath. Dichon mai mewn amser eto i ddod y gwelir ffrwyth gwaith arall o'i eiddo yn nglyn a Chonsuls Prydain mewn gwledydd tramor; ac mae yn bosibl y gwelir, pan elo'r rhyfel presenol heibio, ad-drefniad gwell a mwy effeithiol o fasnach Prydain a gwledydd tramor. Sefydlodd adran newydd hefyd, adran cyfrif cynyrch y deyrnas, a alluogodd y Wladwriaeth i wybod holl fanylion cynyrch pob gweithfa drwy'r wlad.

Ceir mewn penod arall fanylion am ei ddeddfwriaeth yn nglyn a chwestiynau cymdeithasol, ond gellir cyfeirio yma at dri Mesur mawr yn ymwneyd a bywyd masnachol y deyrnas.