Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cyntaf o'r rhai hyn oedd Mesur Porthladd Llundain. Anhawdd, heb feichio'r llyfr a manylion sych, fyddai egluro yn llawn yr hyn a wnaeth y mesur hwn i hyrwyddo marsiandiaeth dramor a chartrefol dinas Llundain. Yr oedd yr anhawsderau ar ffordd trefniant effeithiol mor fawr fel na feiddiodd neb o'i ragflaenwyr anturio ymgymeryd a'r gwaith, er y teimlid ei fawr angen. Lle yr ofnent hwy, anturiodd ef; lle y methai arall, llwyddodd yntau. Un o'i wrthwynebwyr politicaidd ffyrnicaf yw Arglwydd Milner, ond gorfu iddo ef dalu teyrnged anfoddog o barch i allu Lloyd George yn y peth hwn pan gydnabyddodd yn gyhoeddus mai mesur Lloyd George oedd "y ffordd oreu i setlo y cwestiwn mawr, dyrys, ac anhawdd hwn."

Yr ail fesur mawr ei ddylanwad ar fasnach Prydain oedd Deddf y Breintebau (Patents Bill). Amcan cydnabyddedig y mesur hwn oedd rhoi rhagor o waith i weithwyr Prydain yn Mhrydain. Masnach Rydd yw credo Prydain a Lloyd George, a swm a sylwedd y mesur oedd gwrthod hawlfraint mewn mathau neillduol o nwyddau os na fyddai i'r nwyddau hyny "gael eu gwneuthur i raddau digonol" yn Mhrydain. Er galluogi'r darllenydd i ddeall yr amgylchiadau, dylid egluro mai yr arferiad cyn pasio'r Mesur oedd hyn: Gallai gwneuthurwr unrhyw nwydd, neu ddyfeisydd unrhyw offeryn neu beiriant, dyweder yn Germani, sicrhau hawlfraint (patent) ar y nwydd neu'r peth hwnw yn Mhrydain. O dan y cyfryw hawlfraint ni chai neb yn Mhrydain, wneuthur y nwydd hwnw, ni chai neb ond agents perchen yr hawlfraint ei werthu yn