Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mhrydain; ni chai neb yn Mhrydain ei brynu mewn gwlad arall a'i ddefnyddio yn Mhrydain; gallai perchen yr hawlfraint osod yr amodau a fynai ar y neb a'i defnyddiai; perchen yr hawlfraint a benodai'r pris am yr hwn y rhaid ei werthu, ac fel rheol yr oedd y pris hwnw yn uwch yn Mhrydain nag mewn gwlad arall. Gosododd Mesur Lloyd George derfyn ar hyn oll. Ni ellir cael "breinteb" mwyach yn Mhrydain ar nwydd, nac offeryn, na pheiriant, o fath yn y byd, os na wneir y cyfryw yn hollol, neu mewn rhan ddigonol, yn Mhrydain. Canlyniad naturiol hyn oedd gorfodi breintebwyr Germani a gwledydd eraill i sefydlu gweithfeydd yn Mhrydain. Gwelir fod y Mesur, o ran ei egwyddor, yn gyffelyb i Ddeddf Hawlysgrif yn yr Unol Dalaethau.

Ond y pwysicaf o'r tri oedd Mesur y Llongau Masnach. Bu cynadledda mawr a mynych rhwng Lloyd George a chynrychiolwyr y morwyr ar y naill law, a chynrychiolwyr perchencgion llongau ar y llall, cyn iddo dynu allan brif linellau y Mesur mawr. Effaith y Mesur oedd gwella amgylchiadau bywyd y morwr, a gwella safle'r perchenog. Rhoddai i'r morwr well llety ar y llong, gwell bwyd, hawl i gael gofal meddygol, a'r hawl i gael ei gludo yn ol i Brydain pe y diswyddid ef o'i le ar y llong mewn gwlad estronol. Ni cha tramorwyr, amgen na deiliaid Prydeinig, na fedrant yr iaith. Saesneg, eu cyflogi ar long Brydeinig. Am longau teithwyr gwnaed rheolau er sicrhau dyogelwch a chysur i'r teithwyr, yn enwedig yn y steerage; gorfodai longau tramor a lwythent mewn porthladd yn Mhry-