Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dain i ddod o dan yr un rheolau a llongau Prydain ei hun.

Wedi gwneyd enw iddo ei hun yn y Bwrdd Masnach, dyrchafwyd ef yn Ebrill, 1908, i fod yn Gangellydd y Trysorlys y swydd nesaf mewn awdurdod ac anrhydedd i'r Prif Weinidog ei hun. Er syndod i bawb, ac er dychryn i'w gyfeillion, trodd y Wasg Doriaidd i'w ganmol, ond nid hir y parhasant i wneyd hyny. Pan ddaeth ei Gyllideb Fawr ger bron y Senedd, dychrynodd y cyfoethogion a'r landlordiaid yn aruthr, am fod darpariadau'r Gyllideb yn gyfryw ag oedd yn godro yn helaeth o'u heiddo hwy.

Ond pwysicach hyd yn nod na'r darpariadau hyn oedd y ffaith ddarfod i'r Gyllideb Fawr hon brofi yn foddion i gyhoeddi rhyfel rhwng Gwlad ac Arglwydd. Cyn hyn yr oedd hawl ac awdurdod gan Dy'r Arglwyddi i daflu allan unrhyw Fesur a basiai Dy'r Cyffredin. Y bobl sydd yn ethol Ty'r Cyffredin; drwy etifeddiaeth yn unig, ac heb gael eu hethol gan neb, y ceir hawl i sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Cyfoethogion, a landlordiaid mawr, ac urddasolion y deyrnas, yw mwyafrif mawr Ty'r Arglwyddi; aelodau o Eglwys. Loegr, neu o Eglwys Rufain ydynt oll oddigerth llai na haner dwsin; Toriaid cul, eithafol, yw y mwyafrif mawr o honynt. Felly, er cael etholiad ar ol etholiad, ac er dychwelyd i Dy'r Cyffredin ddynion a geisient ddiwygio deddfau gorthrymus, ac er cael mwyafrif gorlethol yno dros y cyfryw ddiwygiadau, eto medrai, ac yn aml gwnai Ty'r Arglwyddi daflu'r mesurau hyny allan, gan wneyd felly holl lafur Ty'r Cyffredin a holl