creu cynifer o Arglwyddi newydd yn gostwng gwerth y teitl o "Arglwydd" yn marchnad anrhydedd y deyrnas, a'r byd. Felly, er mwyn osgoi'r gwaradwydd hwn, llyncodd Ty'r Arglwyddi "Fesur Diwygio Ty'r Arglwyddi," ac y mae bellach yn ddeddf. O dan y mesur hwnw bydd unrhyw fesur a besir dair gwaith, mewn tri senedd-dymor olynol, gan Dy'r Cyffredin, yn dod yn ddeddf Prydain Fawr hyd yn nod os gwrthodir ef bob tro gan Dy'r Arglwyddi.
O dan y ddeddf hon y daeth Mesur Dadgysylltiad i Gymru a Mesur Ymreolaeth i'r Werddon, yn ddeddf. Pasiwyd y ddau deirgwaith gan Dy'r Cyffredin; taflwyd hwynt allan gan Dy'r Arglwyddi, eto o dan y "Parliament Act" maent heddyw yn ddeddfau ar waethaf Ty'r Arglwyddi. Felly y torwyd pen Goliath gormes yn Senedd Prydain, a'r llanc Dafydd Lloyd George, y Cymro bach dewr, a'i torodd!