Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IX.

DIWYGIWR CYMDEITHASOL.

BRAWD Bach y Dyn Tlawd!" Dyna'r enw roddodd ei wrthwynebydd mawr Mr. Bonar Law, arweinydd presenol y Blaid Doriaidd yn Nhy'r Cyffredin, ar Mr. Lloyd George, ac o bob enw, da a drwg, a gafodd gan gyfaill a gelyn erioed, dyna'r enw yr ymffrostia fwyaf ynddo. Cafodd yr enw o herwydd ei ymdrechion i basio deddfau fuasent yn diwygio cyflwr cymdeithas, yn ysgafnhau beichiau'r tlawd, yn gwneyd henaint ac afiechyd yn llai o fwganod i'r gweithiwr gonest. Nid oes wleidyddwr mewn unrhyw wlad heddyw a gwell hawl ar gyfrif ei ddeddfwriaeth, i'r enw. Cafodd eraill yr hyn a eilw y byd yn urddas, ac anrhydedd, a chyfoeth; ni offrymwyd cynifer o weddiau ar ran neb, ac ni ddeisyfwyd cymaint o fendith y nef ar ben neb gan bobl sy'n cael cyn lleied o fwyniant bywyd eu hunain, ar a offrymwyd ar ran ac a ddeisyfwyd i ddisgyn ar ben Lloyd George.

Dau Fesur mawr at leddfu dyoddefaint y tlawd sydd yn gysylltiedig a'i enw—Blwydd-dal i'r Hen, ac Yswiriant yn erbyn afiechyd a bod allan o waith. Rhoddi mynegiant wnaeth y ddau Fesur pwysig hyn i gydymdeimlad a losgai yn ei fynwes o ddyddiau ei