Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

febyd a'r caledi o bob math a ddyoddefid gan y werin dlawd a dyfal o'i gwmpas. Mewn gwlad a orlifai gan gyfoeth gwelodd yn ei blentyndod y tlawd yn dwyn. beichiau anhawdd a thrymion—a chyfranogodd ei hunan yn eu hanfanteision. Er pan ddaeth allan gyntaf i fywyd cyhoeddus sylweddolodd fod gan y werin hawl i fwy o sylw'r ddeddfwriaeth. Y cyhuddiad cyntaf a ddygodd erioed yn erbyn y Blaid Ryddfrydol oedd nad oeddent yn talu sylw digonol nac effeithiol i angenion y gweithiwr. "Nid oes gri gan Ryddfrydiaeth i'r dref!" ebe fe—gan olygu fod drygau cymdeithasol yn y trefi y dylesid eu symud, ac y cawsai'r blaid boliticaidd a geisiai eu symud gefnogaeth y bobl. Yr oedd hyn bum mlynedd cyn iddo fyned yn Aelod Seneddol. Am y gwelai fod bryd y Blaid Ryddfrydol yn fwy ar gyraedd amcanion politicaidd nag ar symud drygau cymdeithasol, y cododd ar ddechreu ei yrfa y cri am Ymreolaeth i Gymru, gan gysylltu a hyny gri am wella amgylchiadau'r werin. Gwyddai fod Cymru yn aeddfetach o lawer na Lloegr i ymgymeryd a mesurau diwygiadol o bob math, bod anianawd y Cymro yn ei wneyd yn fwy parod i symud yn mlaen i ddiwygio'r byd nag ydyw'r Sais, tuedd naturiol yr hwn yw bod yn geidwadol, ac i adael pob peth fel ag y mae. Yn un o'i areithiau dywedodd:

"Aed Rhyddfrydiaeth rhagddi i adeiladu teml rhyddid yn y wlad hon, ond na foed iddi annghofio y rhaid i'r addolwyr yn y deml hono gael modd i fyw. Gwir mai nid ar fara yn unig y bydd byw dyn. Ond mae mor wir a hyny na fedr dyn fyw heb fara."

Beirniadai yn llym yr hen Ryddfrydwyr y rhai, ebe