Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fe, "pan waeddai'r werin am fara diwygiad cymdeithasol a roddent iddynt gareg diwygiadau politicaidd yn unig." Cyhuddai'r Blaid o ddefnyddio angen y werin. fel moddion i gynorthwyo'r Blaid i hyrwyddo amcanion politicaidd. Ebe fe:

"Defnyddia'r Rhyddírydwyr anfoddogrwydd naturiol y werin yn eu cyflwr o dlodi ac angen fel gallu ysgogol er enill iddynt well safle yn ninasyddiaeth eu gwlad enedigol."

Nid oedd hyn, ebe fe, yn ddigon o lawer. Cyn y gallai Rhyddfrydiaeth haeddu ymddiriedaeth y werin, rhaid i'r Blaid "symud achos yr anfoddogrwydd." Gan ameu a oedd Rhyddfrydiaeth Lloegr yn barod i wneyd hyn, a chan wybod y gwnai cenedlaetholdeb Cymru hyny ar frys unwaith y caffai'r gallu, hawliai:

"Rhyddhad y gwladwr Cymreig, y llafurwr Cymreig, y glowr Cymreig, oddiwrth ormes y gyfundrefn heneiddiedig, ddiffrwythol, a darostyngol daliadaeth y tir."

Daliai bob amser fod deddfau gorthrymus y Tir wrth wraidd yr holl ddrygau cymdeithasol. Dyna lle y ceir yr allwedd i'w holl bolisi cyhoeddus. Ebe fe:

"Y gyfundraeth wrogiaethol (feudalism) yw gelyn mawr. y werin."

Y gyfundraeth hono a safai ar ffordd pob cynydd, pob diwygiad, pob ymgais i wella cyflwr y werin. Amddiffynfa gadarn y gyfundraeth hono, ebe fe, yw Ty'r Arglwyddi. Rhaid enill yr amddiffynfa gref hono, a gwneyd eu muriau cedyrn fel muriau Jericho yn gydwastad a'r llawr cyn byth y gellid gwella cyflwr ac amodau bywyd y werin. Felly rhaid edrych ar ei ymgyrch i ddiwygio deddfau'r tir, ac hyd yn nod ei ymosodiad beiddgar ar Dy'r Arglwyddi, fel rhan hanfodol o'i bolisi o ddiwygiad cymdeithasol.