Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O fewn y blynyddoedd diweddaf hyn yn unig y gwelwyd Lloyd George yn y cymeriad hwn gan y byd Seisnig. Eithr nid peth newydd yw yn ei hanes. Cof genyf, yn agos i chwarter canrif yn ol, fod Lloyd George, a'i gyfaill mynwesol Mr. Herbert Lewis, A. S., a minau, yn eistedd ddydd ar ol dydd ar y creigiau ysgythrog ar lan y mor heb fod neppell o'i dy, Bryn Awelon, Criccieth, yn siarad, ac yn trin, ac yn dadleu yr holl gwestiynau hyn. Yr oedd Lloyd George y pryd hwnw yn trefnu ymgyrch mawr trwy Gymru benbaladr, ac yn cyd-drefnu i gyhoeddi llenyddiaeth i'r werin er dangos i etholwyr Cymru gymaint y byddai Cymru ar ei mantais o gael Ymreolaeth. Mae y ffigyrau a roddir yn y dyfyniadau uchod wrth gwrs yn wahanol i'r ffigyrau a weithiwyd allan genym ein tri ar yr hir ddyddiau haf hyny, ond mae hanfod yr ymresymiad, ac hyd yn nod y frawddegaeth, yn y dyfyniadau uchod, yn gyffelyb i'r hyn a siaradem y pryd hwnw.

Gwelir mai ar y syniadau a'r golygiadau a draethir yn yr areithiau hyn y sylfaenir polisi cyllidol o ddiwygiad cymdeithasol Lloyd George. Sylweddolodd yn gynar na wnai y feddyginiaeth ddiniwed a geid yn meddygiadur Rhyddfrydiaeth swyddogol nemawr ddim lles i wella'r drwg yn nghyfansoddiad cymdeithasol Prydain. Yr oedd y drwg hwnw fel y canser wedi gyru ei wreiddiau yn rhy ddwfn i'r corff i'w godi