Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith drwy ddefnyddio eli tyner ar y wyneb. Rhaid oedd cael cyllell lem y llawfeddyg beiddgar i dori'r drwg allan o'r cyfansoddiad. Rhaid ar yr un pryd. oedd cynal nerth y claf drwy borthiant maethol a chyffyr cynyrfiol; ac yr oedd yntau yn feddianol ar y medr a'r dewrder angenrheidiol i ddefnyddio'r gyllell felly. Rhaid, ebe fe, i Ryddfrydiaeth gymwyso ei hun i gyfarfod ag amgylchiadau newydd yr oes. Rhaid myned i mewn am blatform o ddiwygiad eang.

Pe ceid gwell amodau byw i'r werin, meddai, gwnelid i ffwrdd a'r segurwyr, y segurwyr diwaith yn un pen, a'r segurwyr cyfoethog yn y pen arall. Fedrai'r wladwriaeth byth gynal y ddau ddosbarth segur hyn, a rhaid cymeryd mesurau i'w dileu. Sylweddolodd, fel y gwnaeth Mr. Chamberlain o'i flaen, mai trwy'r trysorlys y rhaid ymosod ar gastell gorfaeliaeth, a gosod diwygiadau cymdeithasol ar sylfaen gadarn a pharhaol. Ond gwahaniaethai'r ddau am y dull goreu i sicrhau yr arian angenrheidiol. Cofier fod Mr. Chamberlain mor aiddgar a Mr. Lloyd George am gael blwydd-dal i'r hen, a deallai y rhaid cael miliynau lawer o bunau i sicrhau hyny iddynt. Llyncodd Rhyfel De Affrica arian Chamberlain cyn y medrai osod ei law arno; megys a chroen ei ddanedd y diangodd Lloyd. George rhag cyffelyb anffawd, canys pe bae y rhyfel yn Ewrop wedi tori allan cyn pasio'r ddeddf i roi blwydddal i'r hen, buasai yn anmhosibl iddo yntau ei roddi iddynt. Buasai yntau, felly, fel ei ragflaenydd enwog, yn agored i gael ei gyhuddo o dwyllo'r tlawd ag addewidion gau.