Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd Rosebery fod Lloyd George yn arfer hen ddull y canoloesoedd o gosbi ei wrthwynebwyr. Desgrifid yr Arglwyddi gan Lloyd George fel yn rhegi fel gwyr ceffylau. Gwawdiai'r Cangellydd y Ducod, a'r Iarllod oeddent yn gwingo yn ngafaelion tyn ei gyllideb. Ebe fe:

"Gofynasom iddynt roi rhyw gardod fechan i gadw'r gweithiwr allan o'r tloty. Gwgant arnom. Pan ofynwn iddynt: 'Rhowch cent i ni, dim ond hyny!' Atebant yn swrth. Y lladron!' A hysiant y cwn arnom, a chlywir y rhai hyny yn cyfarth bob boreu o'r newydd."

Cyfeiriad oedd y frawddeg olaf yn nghylch y "cwn yn cyfarth" at y wasg a reolid gan yr urddasolion hyn, megys y "Times," a'r "Daily Mail." Efe ei hun a gaffai fwyaf o'i ddamnio o neb. Dyma ddywed:

"Troant arnaf gan waeddi: "Y lleidr sut ag wyt ti! Yr wyt yn waeth na lleidr, yr wyt yn gyfreithiwr.' A gwaeth na'r cwbl yr wyt yn Gymro! Dyna'r gair olaf a gwaethaf yn eu difriaeth o honwyf. Wel, nid yw yn ddrwg genyf mai Cymro ydwyf; nid wyf yn ymddiheuro am fod yn Gymro. 'Doedd genyf fi ddim help am hyny—ond mi ddywedaf hyn pe medrwn i newid i beidio bod yn Gymro, wnawn i ddim! 'Rwy'n falch o'r Hen Wlad fach fynyddig. Rhaid iddynt hwythau wynebu'r Cymro y tro hwn!"

Yr amcanion at hyrwyddo y rhai y bwriedid y trethiant newydd oeddent Rhoddion at Ddadblygu Gwelliantau Cyhoeddus; Cyfnewidfeydd Llafur er cael gwaith i rai allan o waith; Yswiriant Cenedlaethol Iechyd; a Blwydd-dal i'r Hen. Yn mhlith y gwelliantau cyhoeddus y ceid rhoddion i'w hyrwyddo yr oedd sefydlu ysgolion mewn coedwigaeth; planu coedwigoedd arbrofiadol; trefnu ffermydd i wneyd arbrofiadau mewn cnydau neillduol; gwella stoc fferm; rhoi