Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addysg mewn ffarmwriaeth; hyrwyddo cydweithiad (co-operation); gwella moddion teithio yn y wlad; adenill tir gwyllt; sefydlu daliadau bychain; a moddion eraill i dynu'r boblogaeth yn ol o'r dref i'r ardal wledig, a thrwy hyny leihau y gwasgu a'r gor-cydymgais am dai ac am waith yn y trefi.

Rhan oedd y Gyfnewidfa Llafur o'r cynllun mawr cenedlaethol i yswirio gweithiwr rhag bod allan o waith. Ffurfiai hyny ran o Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol Iechyd. O dan y ddeddf hono talai'r gweithiwr, a'i gyflogydd, swm bychan bob wythnos at drysorfa'r yswiriant; a phan fyddai dyn allan o waith, cynorthwyai'r Gyfnewidfa ef i gael gwaith drachefn, a derbyniai yntau swm penodol bob wythnos i'w gynal pan allan o waith. Aeth tair miliwn o bunau'r flwyddyn o'r trethi newydd at yr amcan hwn. Dyddorol yw sylwi mai trwy y Gyfnewidfa Llafur y cafodd Lloyd George ganoedd o filoedd o weithwyr y misoedd diweddaf i weithfeydd y Llywodraeth i wneyd cyfarpar rhyfel i gyfarfod a'r Caisar.

Darparai Blwydd-dal yr Hen i roi pum swllt bob wythnos i bawb dros 70 mlwydd oed nad oedd ganddynt foddion eraill cynaliaeth. Ceisid ei wasgu i wneyd yr oed yn 65 yn lle 70, ond gwrthwynebai ar y tir mai gwastraff a fyddai hyny yn gymaint ag y byddai yn rhoi arian i ganoedd o filoedd o bobl nad oedd ei angen arnynt am y medrent weithio tan yn 70 mlwydd oed. Nid oes raid i neb gyfranu tuag at y drysorfa hon fel at drysorfa y diwaith. Telir yr holl arian gan y Llywodraeth drwy y Llythyrdy yn mhob ardal.