Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deddf Yswiriant Cenedlaethol Iechyd oedd y bwysicaf, a'r anhawddaf i'w phasio o honynt oll. Cyfarfyddodd y mesur hwn a gwrthwynebiad annghymodlawn drwy ei holl yrfa drwy'r ddau Dy. Gosododd Lloyd George bedair egwyddor fawr sylfaenol fel yn hanfodol i'w gynllun, sef:

1. Rhaid i'r cynllun fod yn orfodol ar bawb; hyny yw, ni chai neb ddewis i yswirio neu beidio; rhaid oedd i bawb yswirio.

2. Rhaid i'r dosbarthiadau oedd a fynent a'r yswiriant, oll gyfranu yn uniongyrchol at y drysorfa.

3. Rhaid i'r Wladwriaeth ychwanegu at y cyfraniadau hyn swm digonol i sicrhau y swm angenrheidiol.

4. Rhaid i'r Clybiau a'r Cymdeithasau Cyfeillgar oedd eisoes mewn bod gael eu cefnogi yn hytrach na'u niweidio.

Rhaid oedd o dan y ddeddf hon i bob gweithiwr, a phob cyflogydd, drwy'r deyrnas dalu swm bychan bob wythnos i drysorfa'r yswiriant. Gwnaed hyn drwy osod stamp a geid yn y llythyrdy i'r pwrpas, ar gerdyn pob gweithiwr bob wythnos. Rhaid oedd dangos y cardiau hyn i swyddog y Llywodraeth pa bryd bynag y gofynid am danynt. Cesglid hwynt bob chwarter blwyddyn. Caffai pob gweithiwr yswiriedig wasanaeth meddyg yn rhad ac am ddim yn mhob rhyw glefyd. Os tystiai'r meddyg fod dyn yn analluog, drwy afiechyd neu ddamwain, i ddylyn ei alwedigaeth, caffai swm of arian bob wythnos i'w gynal hyd nes y byddai yn gallu ail ymaflyd yn ei waith. Dyna yn fyr brif ddarpariadau'r ddeddf fawr hon, un o'r rhai pwysicaf er budd y gweithiwr a basiwyd gan unrhyw Senedd erioed.

Eto gwrthwynebwyd y mesur ar bob llaw. Gwrthwynebai'r Sosialwyr am y rhaid i'r gweithiwr gyfranu