Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at y drysorfa; gwrthwynebai'r cyfalafwyr am fod y ddeddf yn orfodol ar y cyflogwr; gwrthwynebai'r feistres am y rhaid iddi hi wlychu'r stamp i'w rhoi ar y cerdyn, a'r forwyn am fod ychydig geiniogau yn cael eu cadw yn ol o'i chyflog; gwrthwynebai y Clybiau a'r Cymdeithasau Cyfeillgar am yr ofnent golli eu haelodau; gwrthwynebai'r meddygon am y collent rai o'u cleifion preifat, gan waeddi "Mawr yw Diana yr Ephesiaid." Cyfarfyddodd Lloyd George a phob un o'i wrthwynebwyr ar ei dir ei hun. Gyda'r meddygon y bu y frwydr waethaf; bygythiodd Undeb y Meddygon fyned ar streic. "O'r goreu," ebe Lloyd George, "ewch a'ch croesaw. Sefydlaf finau Wasanaeth Meddygol Gwladwriaethol; hyny yw, codir a chyflogir gan y Llywodraeth y meddygon angenrheidiol i ofalu am holl gleifion y deyrnas, a phan y ca claf feddyg i weini arno am ddim, pwy fydd mor ffol a thalu i chwi?" Ac ildiodd y doctoriaid. Derbynia miloedd o ddoctoriaid heddyw fwy o dan Ddeddf yr Yswiriant nag a dderbyniasant erioed o'r blaen; a cha pob gweithiwr claf feddyg rhad, a chyfle i orphwys a gwella yn llwyr cyn ail-ymaflyd yn ei waith.

Cyhuddid ef gan rai ei fod yn Sosialydd am ei fod yn pasio mesurau o natur y rhai hyn. Telir heddyw tua deuddeng miliwn o bunau'r flwyddyn yn Flwydddal i'r Hen; dros dair miliwn at gynal gweithwyr allan o waith; dros bedair miliwn i weini i reidiau y gweithiwr pan yn glaf. A chymeryd yr oll, telir, o dan ddeddfwriaeth Lloyd George yn Mhrydain heddyw, dros ugain miliwn o bunau'r flwyddyn er mwyn