Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD X.

GWEINIDOG CYFARPAR.

YN mhlith holl gyfnewidiadau mawr a rhyfedd ei yrfa, nid oes yr un wedi taro meddwl y cyhoedd yn fwy syn na gweled Apostol Heddwch 1900 yn ymdrawsffurfio i fod yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel yn 1915. I bob ymddangosiad, efe o bawb oedd y mwyaf annhebyg o weinidogion y Goron i gael ei alw i gyflenwi byddin Prydain ag angenrheidiau rhyfel, a'r mwyaf annghymwys o bawb at y gwaith. Yr oedd wedi cael ei godi o'r cryd i fod yn Apostol Heddwch. Efengyl heddwch a bregethasai ar hyd ei oes; yn y Cabinet efe oedd gwrthwynebydd mwyaf penderfynol pob ymgais i ychwanegu'r draul ar arfogaeth y genedl. Saith mis cyn dechreu y Rhyfel, bu yn mron iddo syrthio allan a'i gyd-weinidogion, os nad bygwth ymddiswyddo, ar gwestiwn y treuliau hyn, i'r rhai yr oedd mor annghymodlawn wrthwynebol. Ei unig gysylltiad a'r fyddin oedd ei fod wedi gwasanaethu fel gwirfoddolwr am un haf pan yn llanc ieuanc.

Ond cymhlethiant rhyfedd o annghysonderau yw ac a fu Lloyd George ar gwestiwn rhyfel. Ymladdai yn erbyn rhyfel; am hyny bu yn mron iddo gael ei groeshoelio bymtheng mlynedd yn ol. Melldithid ef gan "y rhai sydd dda ganddynt ryfel." Heddyw mae yn