Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymaint eilun gan y "Jingoes" ag yw Syr John French, ac yn fwy o dduw i'r "Yellow Press" nag yw Arglwydd Kitchener. Pan ymwelodd y Caisar a Phrydain rai blynyddoedd yn ol, aeth allan o'i ffordd i dalu sylw i Lloyd George; heddyw cyfrifa'r Caisar y Cymro a anwyd mewn coty fel ei elyn penaf yma yn y byd.

Dysgodd lawer yn Germani ac oddiwrth Germani. Yno y bu yn astudio problemau blwydd-dal i'r hen, ac yswiriant cenedlaethol; ac eto, er treulio o hono amser yn ngwlad y Caisar, ni welodd ddim o barotoadau aruthrol Germani ar gyfer y rhyfel presenol. Daeth yn ei ol i Brydain yn fwy sicr nag erioed yn ei feddwl mai gwlad yn caru heddwch oedd Germani, ac nad oedd angen i Brydain i ychwanegu dim at ei harfogaeth rhag ofn rhyfel a'r wlad hono byth. Credai yn ddiysgog mai cenadaeth ac amcan mawr Germani yn y byd oedd lledaeniad ei masnach, a bod parhad heddwch rhwng gwledydd daear yn anhebgorol angenrheidiol i hyny. Wedi dod yn ol i'r Senedd, gwawdiai Lloyd. George yno rybuddion difrifol a pharhaus gwr mor bwyllog a Mr. Balfour, yr hwn a ddaliai o hyd fod y Caisar yn parotoi ac yn cynllunio rhyfel, ac mai unig ddyogelwch Prydain oedd parotoi i'w gyfarfod. Ni fynai Lloyd George dderbyn y cyfryw heresi, yr oedd ei ffydd yn mwriadau heddychol y Caisar mor ddiysgog y pryd hwnw ag oedd ffydd yr Arlywydd Wilson yn nhirionwch trugarog y Caisar pan suddwyd y Lusitania.

Parhaodd i siarad yn gryf dros beidio chwyddo trefniadau arfogaeth Prydain, yn mron yn ddibaid o