Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1908 hyd o fewn ychydig iawn o amser i'r adeg pan y dechreuodd Germani ei rhuthr ofnadwy yn erbyn heddwch y byd. Mynai dynion llygadgraff eraill heb law Mr. Balfour weled y cwmwl du yn codi dros ffurfafen heddwch, ac er nad oedd y pryd hwnw ond megys cledr llaw gwr ar y gorwel yn Germani, credent mai lledu a wnai nes taflu ei gysgod dros holl Ewrop, ac y torai yn genllysg tan drwy'r byd. Dywedai Arglwydd Faer Llundain yn 1909, mai dyledswydd Prydain oedd. "gwneuthur ei hun fel gwr cryf arfog gan nad beth a fyddai'r gost." Y pryd hwnw, yr oedd lefiathan cyntaf y llongau rhyfel, y Drednot, newydd gael ei ddyfeisio. Yn ei araeth ar y Gyllideb y flwyddyn hono, dangosodd Lloyd George y buasai adeiladu dwy Drednot yn golygu ceiniog y bunt yn ychwanegol ar dreth yr Incwm bob blwyddyn am y ddwy flynedd a gymerent i'w hadeiladu. Buasai adeiladu wyth drednot, fel y gwaeddai y wlad am wneyd, yn golygu ychwanegu grot y bunt at y dreth. Ebe fe yn yr araeth hono:

"Gweithred o wallgofrwydd pechadurus yn fy nhyb i a fyddai taflu ymaith wyth miliwn o bunau (yr hyn a gostiai pedair Drednot) i adeiladu llynges enfawr ddiraid i gyfarfod a rhyw lynges ffugiol nad oes iddi fodolaeth, a hyny pan fo arnom gymaint o angen yr arian at ddybenion eraill. Er mai gwlad gyfoethog yw Prydain nis gall fforddio adeiladu llynges yn erbyn hunllef. Mae yn waith rhy ddrudfawr o lawer. Buasai taflu ymaith filiynau o bunau pan nad oes dim yn galw am hyny, yn ddim amgen nag afradloni ein cyfoeth a lleihau ein hadnoddau pan ddaw gwir angen am danynt."

Ond yn anffodus proffwyd gau ydoedd y pryd hwnw. Erbyn hyn mae y "llynges ffugiol" wedi gwisgo llun materol, a'r "hunllef" wedi dod yn berygl