Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arogli powdwr, na gweled gwaed dyn yn llifo erioed. Yr oedd glanau Prydain o fewn cyraedd ergyd i allu mawr Germani, eto ni phetrusodd y wlad, na'r genedl, na'r Llywodraeth, am foment.

Adgofiaf yma ffaith ddyddorol na chyhoeddwyd mo honi o'r blaen, ond y bydd yn dda gan Gymry'r America ei gwybod. Teifl oleuni ar wir reswm Prydain dros fyned i ryfel yn erbyn Germani. Mae y rheswm wedi cael ei gyhoeddi ganwaith, ond dichon y dealla Cymry'r America ysbryd eu cydwladwyr yn Nghymru yn well yn ngoleuni'r ffaith wyf yn awr yn gofnodi. Dylai fod yn ysbrydoliaeth i'r neb a'i darlleno.

Boreu Sul, Awst 2, 1914, daeth Prydain i wybod fod rhyfel wedi cael ei gyhoeddi rhwng Germani a Ffrainc, a rhwng Germani a Rwsia. Daeth cenadwri i bob capel Ymneillduol yn nhref Caernarfon y boreu hwnw am gyhoeddi cyfarfod o'r trefwyr yn neuadd y dref i'w gynal y nos Sul hwnw. Daeth torf yn nghyd. Deallwyd fod Mr. Lloyd George yn y Cabinet, yn gwrthwynebu a'i holl egni yr adran o'i gydaelodau oeddent am i Brydain hefyd gymeryd rhan yn y rhyfel. Dyna hefyd oedd safle'r cyfarfod yn Nghaernarfon, a safle Cymru benbaladr y nos Sul hwnw; cafwyd amryw areithiau yn dangos beth fyddai canlyniadau alaethus y rhyfel i ni pe cymerai Prydain ran ynddo. Yr oedd y cyfarfod yn unfrydol ar y pwnc. Pasiwyd penderfyniad yn galw ar y Cabinet i ymgadw rhag cymeryd rhan yn y rhyfel. Pellebrwyd hwnw i'r Cabinet, a dygwyd yr un penderfyniad ger bron y