Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

araeth filwriaethus Lloyd George gan gydwybod, a chalon, ac ysbryd y deyrnas.

Unig wir ddyogelwch Prydain yn y dyddiau bygythiol hyny oedd ei llynges—y llynges yr oedd Lloyd George ei hun flwyddyn cyn hyny mor anfoddlawn i wario arian i'w pherffeithio a'i chryfhau. Ond nid oedd parotoadau Germani wedi eu gorphen yn 1911. Gwir ei bod yn llawer mwy parod nag ydoedd Prydain, gan fod y drindod mawr Germanaidd—y Caisar, a Krupp, a Von Tirpitz—wedi bod yn gweithio yn egniol am lawer blwyddyn faith i barotoi byddin a llynges, a chyflegrau, a chyfarpar, o bob math, ond nid oedd y trefniadau wedi eu llwyr orphen, na Germani mewn canlyniad yn hollol barod i daro yr ergyd yn 1911. Felly swatiodd Germani. Ni ddanfonwyd yr un llong rhyfel ganddi i Agadir, a gohiriwyd dydd. cyhoeddi rhyfel.

Testyn syndod i bawb erbyn hyn yw, sut y medrodd Cabinet Prydain barhau mor ddiofal ar ol araeth Lloyd George yn 1911, canys diofal a fu. Wedi i ystorm Agadir chwythu heibio, syrthiodd pob peth yn ol i'r un cyflwr o ddifaterwch ag o'r blaen. Y canlyniad oedd pan gyhoeddwyd rhyfel yn Awst, 1914, yn erbyn Germani, yr oedd Prydain mor anmharod ag ydoedd. yn 1911. Byddin fechan oedd byddin Prydain yn Awst, 1914; "contemptible little Army" y galwodd y Caisar hi pan feiddiodd sefyll ar draws llwybr ei lengoedd arfog a dirif ar wastadeddau Belgium anrheithiedig. Nid oedd y Tiriogaethwyr, a godwyd drwy ragofal a rhagwelediad Arglwydd Haldane, wedi