Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lloyd George, buasai hyny yn golygu talu pris mor fawr yn narostyngiad gwaradwyddus y genedl Brydeinig yn llygaid byd gwareiddiedig, fel na fedrai Prydain, na'i Llywodraeth ddychymygu am ei oddef.

Gwelir nad oes yn yr araeth a ddyfynwyd air o son am Germani na Moroco, nac, ar y wyneb, unrhyw gyfeiriad uniongyrchol at y naill na'r llall, ond rhyw siarad wrth y post er mwyn i'r llidiard gael clywed ydoedd. Clywodd y Caisar, a deallodd. Deallodd Ffrainc, a'r Ysbaen, a phob gwlad arall beth oedd gwir ystyr geiriau ymddangosiadol ddiniwed Lloyd George. Golygent, a deallodd pawb eu bod yn golygu, yr ai Prydain i ryfel yn erbyn Germani cyn y caniateid ganddi i Germani anwybyddu Prydain na pheryglu hawliau cenedloedd eraill. Am rai dyddiau bu yr argyfwng yn un peryglus, a'r amser yn bryderus. Yr oedd Prydain mor anmharod i ryfel yn 1911 ag ydoedd yn 1914, ac mor anmharod ag ydoedd Unol Dalaethau yr America pan dorodd y rhyfel allan yn Ewrop, ond cyffrodd a deffrodd yr holl wlad. Yn y dyddiau cyntaf ar ol araeth Lloyd George yr oedd Prydain yn brysur ymbarotoi i ryfel; rhoddwyd gorchymyn i'r holl fyddin a'r tiriogaethwyr i fod yn barod. Dysgwylid y buasai. llynges Germani yn gwneyd rhuthr sydyn ar lanau dwyreiniol Lloegr. Gyrwyd corff cryf o filwyr i wylio'r glanau hyny. Dengys yr hyn a gymerodd le wedi hyny yn Belgium a Ffrainc y buasai unrhyw fyddin y medrai Prydain ei gosod ar y maes mewn amser mor fyr yn hollol annigonol i gyfarfod a llengoedd creulawn Germani. Eto ni phetrusodd neb. Cefnogid.