fod canlyniad danfon llong rhyfel Germani i borthladd a dybid yn eiddo Ffrainc; buasai yn sicr o olygu gwrthdarawiad buan rhwng Germani a Ffrainc. Heblaw hyny, golygai fod Germani yn bwriadu anwybyddu Prydain mor llwyr ag yr anwybyddwyd yr Unol Dalaethau gan y Caisar yn ei fradlofruddiaeth ar y mor. O dan yr amgylchiadau hyny gosododd y Cabinet Lloyd George i draddodi araeth ar y pwnc yn ngwledd Arglwydd Faer Llundain. Ebe fe:
"Mae yn hanfodol angenrheidiol, nid yn unig er mwyn Prydain ei hun, ond hefyd er mwyn buddianau goreu'r byd, i Brydain fynu cadw ei safle a'i dylanwad yn mhlith Galluoedd Mawr y byd. Bu y dylanwad hwnw lawer tro yn y gorphenol, a geill fod eto yn yr amser a ddaw, yn anmhrisiadwy i hawliau dynoliaeth. Mwy nag unwaith cadwodd gallu Prydain rai o genedloedd Ewrop rhag trychinebau. arswydus, ac hyd yn nod rhag difodiant cenedlaethol. Gwnawn lawer o aberth er mwyn cadw heddwch, ond pe y gwthid ni i'r cyfryw sefyllfa fel na byddai yn bosibl cadw heddwch ond ar draul ildio o honom y safle o gymwynaswr a enillodd Prydain drwy ganrifoedd o ymdrech arwrol, ac ar draul caniatau i eraill ein hanwybyddu fel gwlad nad yw yn werth ei chyfrif yn nghabinet cenedloedd byd, yna, dywedaf yn bendant a chroew, na fedrem fel gwlad dalu pris mor warthus a darostyngol hyd yn nod am heddwch. Nid cwestiwn plaid yw anrhydedd y genedl. Bydd heddwch y byd yn llawer fwy tebyg o gael ei ddyogelu os sylweddola'r cenedloedd beth y rhaid i amodau yr heddwch hyny fod."
Dyna osod safle gwlad a chenedl fel noddwr hawliau dynoliaeth a gwareiddiad, mewn goleu clir a digamsyniol. Gwelir hwynt heddyw yn dysgleirio er anrhydedd Prydain oesau'r ddaear yn ngoleuni rhuddgoch fflamau y rhyfel mwyaf erchyll a welodd y byd erioed. Buasai mor rhwydd i Brydain, ag y bu i America, gadw allan o'r rhyfel yn Ewrop. Ond, fel y dywedodd