Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond er hyn oll, yr oedd yn mhen blwyddyn wed'yn, yn 1910, yn condemnio mor ddiarbed ag erioed y cyd-ymgais i arfogi. Dywedai fod gwledydd y byd yn gwario 450 miliwn o bunau bob blwyddyn ar arfau dinystriol. Heddyw, yn mhen pum mlynedd ar ol traddodi'r araeth hono, mae y Cabinet o'r hwn y mae ef yn un o'r ddau aelod mwyaf eu dylanwad, yn gwario, ar ran arfogaeth Prydain yn unig, gymaint dair gwaith ag ydoedd holl wledydd daear gyda'u gilydd yn wario pan y traddododd yr araeth yn condemnio hyny.

Y ffaith arall y dylid gadw mewn cof yw, ddarfod iddo yn mhen blwyddyn arall—yn 1911—draddodi araeth fu yn mron bod yn achlysur rhyfel rhwng Prydain a Germani. Ni welwyd nemawr erioed well engraifft o watwareg ffawd nag a welwyd pan osodwyd Lloyd George, apostol heddwch, cyfaill y Caisar, y gwr yr oedd ei ffydd mor gref yn amcanion diniwed ac heddychol Germani, i siarad ar ran cabinet Prydain i fygwth rhyfel yn erbyn Germani!

Achlysur hyn oedd yr hyn a adwaenir fel "Helynt Agadir." Porthladd yw Agadir yn Moroco, Gogledd Affrica. Yn y wlad hono yr oedd cydgystadleuaeth fasnachol rhwng Germani, Ffrainc, a'r Ysbaen. Er na feddai Prydain fodfedd o dir yno, yr oedd cryn lawer o fasnach ganddi yn y wlad, a hawliai felly lais mewn unrhyw ad-drefniant gwleidyddol a fynai gwledydd Ewrop wneyd yn Moroco. Amlygodd Germani fwriad i ddanfon llong rhyfel i Agadir er mwyn "dyogelu buddianau Germani." Gwyddai pawb beth allasai