Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prydain, ni cheid yr un yn barotach i aberthu na Chymru wen. Dyma'r genedl fwyaf heddychlawn ar wyneb daear. Nid casach rhyfel gan neb na chan genedl y Cymry, ond wele, am y tro cyntaf er's canrifoedd bellach, fyddin Gymreig, a'i chadfridogion a'i swyddogion oll yn Gymry o waed, o galon, ac o dafod.

Un dydd aeth Cymro o sir Fon, Owen Thomas, mab y Neuadd, Cemaes, Mon, i fyny i Lundain i ymweled a Lloyd George. Mab fferm oedd Owen Thomas, wedi bod yn dal yr aradr, a'r bladur, a'r cryman, ei hun; Ymneillduwr o'i febyd, ei daid yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ac yntau ei hun yn ddiacon gyda'r Annibynwyr yn nghapel bach Llanfechell, Mon. Yr oedd wedi llwyddo yn y byd, drwy ymdrech, dyfalwch, gallu, a ffyddlondeb. Adeg rhyfel De Affrica cododd gorfflu o feibion a gweision ffermydd Mon, ac enillodd ef a hwythau glod ac anrhydedd yn y rhyfel. Ar ddiwedd y rhyfel, gwnaeth wasanaeth mawr drwy ddadblygu adnoddau amaethyddol talaeth eang yn Ne Affrica. Cyn dechreu rhyfel Ewrop cydnabyddid ef fel un o awdurdodau blaenaf yr Ymerodraeth ar gwestiynau tir ac amaethyddiaeth. Dyna'r gwr aeth i fyny o sir Fon i weled Lloyd George yn Llundain pan dorodd y rhyfel allan yn Ewrop ac y daeth gwaedd drwy'r tir am fechgyn i'r fyddin. Gosododd Owen Thomas y mater oedd ganddo gerbron Lloyd George. Yna aeth y ddau i'r Swyddfa Rhyfel at Arglwydd Kitchener, gan drefnu eu mater eill dau ger ei fron. Daeth Cyrnol Owen Thomas allan o'r Swyddfa Rhyfel yn Faeslywydd (General) Owen Thomas, gydag awdurdod i