Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godi byddin Gymreig—y fyddin wir a gwahanfodol Gymreig gyntaf a welwyd er y dydd yr arweiniodd Syr Rhys ap Thomas, wyr Myrddin, Brycheiniog, a Cheredigion i Faes Bosworth, ac y gosododd yr hen Gymro o Abermarlais goron Lloegr ar ben Harri Tudur, y Cymro o Ben Mynydd, Mon, a adwaenir heddyw mewn hanes fel y Brenin Harri VII.

Wedi cael yr hawl i godi byddin o Gymry, ymdaflodd Lloyd George ac Owen Thomas i'r gwaith. Atebwyd eu gwaedd mor aiddgar gan fechgyn Cymru ag yr atebodd cyndeidiau y rhai hyny ganrifoedd yn ol alwad Owen Glyndwr. Er's misoedd rhifa byddin Cymru yn unig fwy o filwyr nag oedd rhif holl fyddin Prydain ymladdodd o dan Wellington yn Waterloo. Enillodd catrodau o honynt glod anfarwol am wrhydri dihafal yn Ffrainc a'r Dardanels. Yna creodd y Brenin Sior V. gorff o "Welsh Guards," y cyntaf erioed mewn hanes. Yr oedd English, Scotch, ac Irish Guards o'r blaen, ond dyma'r Welsh Guards cyntaf, a'r Brenin ei hun yw eu Cyrnol a'u penaeth. Yna drwy orchymyn pendant Swyddfa Rhyfel, gosodwyd yr Iaith Gymraeg yn iaith gydnabyddedig Byddin Cymru.

Ymrestrodd mwy o fechgyn Cymru, mewn cyfartaledd i'r boblogaeth, nag a wnaeth o feibion unrhyw genedl arall yn yr Ymerodraeth, a heddyw, wele'r Maeslywydd Owen Thomas yn codi ail Fyddin Cymru, ac yn gyru allan apel at ei gydgenedl sydd wedi gwefreiddio'r wlad. Yr wythnos hon (yr wythnos gyntaf yn Rhagfyr, 1915), bydd Mr. a Mrs. Lloyd George yn ymweled ag adran fawr o Fyddin Cymru cyn myned o