Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honi allan i faes y gwaed, ac yn mhlith y rhai y ffarwelia Lloyd George a hwy bydd ei ddau fab, y Cadben Richard Lloyd George, a'r Is-gadben Gwilym Lloyd George.

Dywedwyd eisoes fod Prydain yn anmharod i ryfel pan ddechreuodd Germani ar ei galanastra yn Ewrop. Dau can mil (200,000) o filwyr oedd Prydain wedi ymrwymo i'w danfon i'r Cyfandir—ac yr oedd hyny yn fwy nag a yrwyd o Brydain i wlad dramor erioed o'r blaen. Erbyn heddyw mae'r "fechan wedi myned yn fil, a'r wael yn genedl gref." Erbyn y gwanwyn nesaf bydd Cymru fach ei hunan wedi codi mwy o filwyr nag a fwriadai Ymerodraeth Prydain Fawr oll ar y dechreu eu gyru i'r rhyfel. Cyn dechreu'r haf nesaf bydd ugain o filwyr gan Brydain am bob un oedd hi wedi addaw. Yn lle dau can mil (200,000) rhifa byddin Prydain heddyw dros dair miliwn (3,000,000); erbyn dechreu'r haf nesaf, bydd dros bedair miliwn (4,000,000), heb gyfrif y rhai fydd wedi cael eu lladd, eu clwyfo, neu eu carcharu cyn hyny.

Dyry y ffigyrau hyn ryw syniad gwan o aruthredd y gwaith o barotoi cyfarpar rhyfel iddynt oll. Gwaith rhwydd oedd cyflenwi rheidiau dau can mil; gwaith aruthrol oedd cyflenwi rheidiau pedair miliwn mewn bwyd, dillad, arfau, a chyfarpar o bob math. Gwelodd y Cabinet y rhaid gwneyd darpariaeth arbenig at gyfarfod a'r angen mawr, newydd, annysgwyliadwy hyn. Penderfynwyd felly sefydlu "Gweinyddiaeth Cyfarpar" (Ministry of Munitions). Rhaid oedd cael yn benaeth i'r adran newydd wr o yni, ac o benderfyniad,