Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a fedrai ysbrydoli dynion i weithio a'u holl egni, a'r Cymro Lloyd George a ddewiswyd i'r gwaith mawr a rheidiol hyn—y nesaf mewn pwysigrwydd mewn cysylltiad a'r rhyfel i swydd Arglwydd Kitchener ei hun.

Ymneillduodd felly o Gangelloriaeth y Trysorlys, ac ymdaflodd a'i holl nerth a'i holl enaid i'r gwaith newydd. Yr oedd busnes cyfarpar Prydain fel gwyneb y ddaear yn moreuddydd creadigaeth, "yn afluniaidd a gwag." Gwaith cyntaf Lloyd George oedd cael pethau i drefn, a gwaith oedd hwnw fuasai yn tori calon gwr llai penderfynol. Rhaid oedd ymgodymu a phob rhyw fath o rwystrau, a'u gorchfygu oll. Yr oedd eiddigedd yn codi ei phen ac yn chwythu fel neidr; yr oedd priodelw cyflogwyr a marsiandiwyr ar y naill law, a rhagfarn a drwgdybiaeth y gweithiwr ar y llaw arall, yn noethu danedd yn fygythiol; a'r fasnach feddwol fel llew rhuadwy yn barod i'w larpio, canys yr oedd ei waith newydd yn cyffwrdd a buddianau y rhai hyn oll. Yr oedd Adran Cadoffer (Ordinance Department) mewn bod eisoes, a chan yr adran hono ei gwaith, a'i swyddogion ei hun. Ymyrai adran newydd Lloyd George yn uniongyrchol a hono. Aeth yn ymgodymu, a'r wythnos hon, ar ol misoedd o ymdrech, daw yr "Ordinance Department" o'r diwedd o dan lywodraeth y "Ministry of Munitions."

Cyffrodd y swydd newydd waelodion dyfnaf a chwerwaf cweryl diorphwys cyfalaf a llafur. Yn Mhrydain fel yn yr America, myn cyfalaf gael llafur rhad os medr; myn llafur ar y llaw arall well cyflog a gwell amodau gwaith. Gymaint oedd angen ein