byddin fawr am gyfarpar o bob math, fel y galwai yr angen hwnw am i bob gweithdy droi allan bob dydd gymaint byth ag oedd yn bosibl. Milwriai rheolau Undebau Llafur drachefn yn uniongyrchol yn erbyn hyny. Tuedd rheolau Undebau Llafur yw lleihau swm cynyrch gweithdy yn hytrach na'i chwyddo. Galwai angen y deyrnas am roi gwaith i bob dyn a dynes y gellid cael lle iddynt yn y gweithdai; gwaharddai rheolau Undebau Llafur gyflogi neb na fyddai yn aelod o'r Undeb. Dyna ran o'r problem a wynebai Lloyd George yn ei swydd newydd. Hyd yma cyfrifid ef bob amser o du'r gweithiwr; yr oedd pob araeth gyhoeddus o'i eiddo a gyffyrddai a chwestiwn cyfalaf a llafur, yn dangos yn glir fod ei gydymdeimlad gyda'r gweithiwr. Ond yn awr, yn ei araeth gyntaf ar y cwestiwn of gyflenwi angen y fyddin, dywedodd:
"Gallai'r gweithwyr yn rhwydd ddigon droi allan o leiaf 25 y cant yn rhagor o gynyrch o'r gweithdai nag a wnant; gallant gyflenwi hyny yn rhagor o bob cyfarpar rhyfel os ymryddhant yn awr ar adeg rhyfel, o'r arferion a'u llywodraethant yn amser heddwch."
Diameu ei fod yn dweyd y gwir, ond gwir chwerw ydoedd, a gwir oedd yn myned hyd at wraidd holl egwyddorion Undebau Llafur. Holl amcan Undeb Llafur yw amddiffyn y gwan. Byddin fawr yw gweithwyr gwlad, a byddin ddysgybledig yw lle bo Undebau Llafur teilwng o'r enw. Pan fo byddin o filwyr yn teithio, rheolir cyflymder y daith yn ol gallu y gwanaf a'r eiddilaf yn mhlith y llwythau. Pe symudai byddin ar ei thaith yn ol gallu y cryfaf a'r cyflymaf, buan y gadewid haner y fyddin ar ol. Nid yw byddin