byth yn gadael ei gweiniaid ar ol ond pan naill ai yn rhuthro i ymosod ar y gelyn neu pan yn ffoi oddiwrtho. Felly am swyddogion byddin llafur; gwahardda eu rheolau i'r gweithiwr da a chyflym droi allan yr holl waith y medr ef wneyd; rhaid rheoli cyflymdra ei waith ef wrth fedr cyfangorff ei gydweithwyr. Mae hyn yn wir am bob cylch o waith a reolir gan Undeb Llafur.
Gwelai Lloyd George felly ddwylaw'r gweithiwr wedi eu rhwymo, fel na chaffai'r dyn, hyd yn nod pe y dymunai hyny, wneyd cymaint o waith ag a fedrai, er fod ei frodyr ar faes y gwaed yn cael eu lladd wrth y miloedd o ddiffyg y pethau y medrai'r gweithiwr gartref eu troi allan pe rhoddai ei holl egni ar waith. Byddai dyn cyffredin yn tori ei galon pe caffai ei hun wyneb yn wyneb a'r fath graig rwystr. Eithr nid felly Lloyd George. Fel arfer, aeth at wraidd y drwg. Apeliodd at yr Undebau Llafur am roi o'r neilldu, tan ddiwedd y rhyfel, y rheolau a gaethiwent ryddid y gweithiwr, modd y gallai pob gweithdy ddyblu ei ddiwydrwydd a'i gynyrch er cyfarfod ag angen y genedl a'r milwyr. Cyhoeddodd y rhybudd a ganlyn i holl weithwyr y deyrnas:
"Mae angen y wlad i fod goruwch pob peth arall. Geilw am y mwyaf a'r goreu a fedr pob gweithiwr yn holl weith- dai cyfarpar y wlad ei wneuthur. Bydd unrhyw weithiwr a ymgeidw rhag gwneyd ei oreu, yn darostwng angen y wlad i'w fuddiant personol ef ei hun."
Ond rhaid oedd cael caniatad yr Undebau Llafur eu hunain cyn y medrai'r gweithiwr gydsynio a chais Lloyd George ac ateb cri y milwyr yn y ffosydd. Ac