Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid yn hawdd yr enillwyd cydsyniad yr Undebau. Pe na bae dim ond cwestiwn y Rhyfel mewn dadl, dymuniad pob gweithiwr fuasai gwneyd ei oreu glas yn ddiameu. Mae gweithwyr Prydain, fel dosbarth, mor barod ag unrhyw ddosbarth i wneyd pob aberth posibl er sicrhau buddugoliaeth i fyddin Prydain, ond ofnent, ac nid heb achos, fod eu gelynion gartref yn ceisio manteisio arnynt, ac o dan gochl angen cenedlaethol yn eu cymell i roddi i fyny arfau oedd wedi bod yn amddiffyniad i'r gweithiwr yn yr amser a fu, ac a fyddai yn amddiffyniad eto yn yr amser oedd i ddod. Yr oedd sicrhau y dyogelwch a'r breintiau a olygir mewn Undeb Llafur, ei gyfundrefn, ei gydweithrediad, a'i reolau amddiffynol, wedi costio yn ddrud i weithwyr Prydain, a nid hawdd ganddynt amddifadu eu hunain o'r pethau hyn. Ofnent gyda hyny, a thrachefn nid heb achos, y byddai meistri yn ymgyfoethogi mwy fyth ar draul y gweithiwr pe y rhoddai efe i fyny arf amddiffynol rheolau Undebau Llafur.

Ceisiodd Lloyd George gyfarfod a'r ddau anhawsder. Ymrwymodd ar ran y Llywodraeth yn y lle cyntaf, na chaffai yr Undebau Llafur, na neb o'u haelodau, ddyoddef, ar ddiwedd y rhyfel unrhyw anhawsder o fath yn y byd am ddarfod iddynt roi heibio am dro reolau yr Undebau. Ar derfyn y Rhyfel, caffai'r Undeb ail osod yr holl reolau hyny mewn grym fel cynt, ac fel pe na baent wedi cael eu rhoi o'r neilldu erioed. Ymrwymodd yn yr ail le na chaffai'r meistr wneyd elw afresymol ar draul gwaith ychwanegol y gweithiwr. Fel mater o ffaith, ar hyn o bryd, allan